Does yna ddim byd yn y byd yma sy’n berffaith, a dyna lle mae
gogoniant ein byd ni; yn y pethau amherffaith mae ein barddoniaeth.
Mae Menna Elfyn yn fardd sy’n sylwi ar bethau bychain bywyd er mwyn
creu darlun o’r pethau mwy. Dyma’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg yn
unig i Menna ei chyhoeddi ers dros ddeng mlynedd; doeddwn i ddim yn
cofio fod amser wedi hedfan gymaint. Mae’r gyfrol, Perffaith Nam,
yn un sy’n gasgliad o’r manwl a’r mwy. Mae ei cherddi i’r teulu yn
rhai tyner a hudolus - o gerdd am fodrwy i fotwm bol ei merch, lle
mae 'Botwm siâp y byd yw, / Nam perffaith, beunyddiol' i gerdd,
‘Digymar’ i’w gŵr, yn sôn am y ffordd y mae’r ddau mor ddi-hid o
ddyddiad eu priodas, yn anghofio bob blwyddyn, ac eto mae’r ddau yn
ymwybodol o ba mor werthfawr yw eu perthynas, yn 'eneidwe syfrdan'.
Ac yn y manylion teuluol yma y mae mawredd Perffaith Nam i mi, y
pethau cudd hynny sydd mor unigryw ac eto mor gyffredin i bawb;
dyma’r pethau sy’n gwneud bywyd yn werth ei fyw. Chwarae ar eiriau
ac ystyron, y gerdd ‘Bronnau ffug’ a ‘Cysgu ar ei thraed’, sy’n
plesio nghlust i’n fawr. Mae cerddi fel ‘Cysgu gyda Mussolini’ yn
cofnodi un digwyddiad, yn asio’r doniol a’r difrifol mewn ffordd
hynod, mewn dull mae Menna Elfyn yn ei wneud mor ardderchog. Mae
cerddi Menna yn crynu’n drydanol o fywyd ac mae’r nam yma’n
berffaith o ran hynny. Er i mi fwynhau’r gerdd hir am Simone Weil,
y ffeminydd, 'Y Forwyn Goch', a theimlo gwefr o gryfder cyhyrog y
merched yn y dilyniant o gerddi, ‘Melltith y Mamau’, i mi, Menna
Elfyn ar ei gorau yw’r un sy’n dangos y manylion, yr un edrychiad
llygaid yna, y fflach, y cyffwrdd o dros sawl cyfandir. Ac fel
pwytho clytwaith at ei gilydd, mae’r grefft yn y pwythau mân, ac
mae Menna Elfyn yn wniadwraig ddi-ail.
*Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |