Y pedwerydd mewn cyfres wreiddiol o ‘straeon denu darllen’. Wedi eu
hanelu at blant 6+, dyma ddwy stori ffraeth a difyr sy’n cynnwys
sefyllfaoedd a chymeriadau lliwgar y gall plant heddiw uniaethu â
nhw. Lluniau du a gwyn hwyliog gan Hannah Doyle.
Gwely Haul
Gwylan glên a llawen yw Gwil erbyn hyn. Ond ar un adeg, roedd mewn
penbleth fawr – roedd Gwil yn methu’n lân â deall ble’r oedd yr
haul yn cysgu. Does dim amdani ond hedfan Cymru i ganfo
atebion.
Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna
Mae’n ben-blwydd Anna heddiw. Mae hi’n ddeg oed, ac mae dathlu
mawr. Dim ond naw oed ydi Hanna – tan fory. Tybed a fydd Hanna’n
gallu bihafio ym mharti ei hefaill? Dyma drwbl dwy ddwbwl!
DWY stori i’w clecio mewn UN llyfr
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*
Dyma ddwy stori wreiddiol arall yn y gyfres yma. Mae’r ddwy yn
ddarllenadwy iawn, yn cynnwys geirfa ymestynnol ac mae digonedd o
faterion trafod yn codi ynddyn nhw.
Yn y gyntaf mae Gwil y Gwylan glên ar dân eisiau gwybod ble roedd
yr haul yn cysgu yn y nos. Ceisiodd gymorth Dwpsen Dylluan a
Penri’r Pry Cop, ond dwy siwrne ofer a gafodd Gwil wrth wrando
arnyn nhw. Ond yn ffodus i Gwil, roedd Ywi Ystlum wedi clywed am ei
benbleth ac fe drefnodd gyfarfod arbennig i ddod at y
gwirionedd.
Dyma stori annwyl iawn sy’n cyflwyno rhai mannau daearyddol yng
Nghymru, gan gynnwys Tŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon, Ynys
Llanddwyn a Stadiwm y Mileniwm. Ac mae yna elfen wyddonol i’r stori
tua’r diwedd hefyd.
Mae yna gymhlethdod mawr yn yr ail stori. Mae Anna a Hanna yn
efeilliaid, ond doedden nhw ddim wedi cael eu geni ar yr un diwrnod
na hyd yn oed yn yr un mis, er mai dim ond 10 munud sydd rhyngddyn
nhw! Mae’r ddwy chwaer yn hollol wahanol i’w gilydd; Anna yn dwt ac
yn daclus a Hanna’n flêr iawn. Gan taw Anna oedd yr hynaf o’r ddwy,
hi fyddai’n cael ei phen-blwydd gynta, ac roedd hynny’n dân ar
groen ei chwaer. Yn wir, doedd hi ddim yn mynd i fwynhau ar unrhyw
gyfri, ac roedd am ddifetha’r hwyl i bawb arall hefyd.
Wrth i bawb gyrraedd, fe gafodd Hanna syniad cas iawn. Roedd am
droi dŵr Geraint Thomas, anrheg o siop ‘MiaWyff’ yn binc! Wedi eich
drysu? Wel, fe ddaw’r atebion yn glir wrth i chi ddarllen y stori
ddoniol yma .. . a cheir diweddglo hapus hefyd.
*Hefin Jones @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |