Cegin [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Dechreuodd diddordeb Nici mewn coginio wrth draed ei mam, a byth ers hynny mae wedi mwynhau arbrofi yn y gegin. Sefydlodd fwyty pop-yp yng Nghaernarfon rai blynyddoedd yn ôl, a hyd heddiw mae'n darparu bwydydd blasus ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal. Hi yw un o sylfaenwyr Gŵyl Fwyd Caernarfon a Gŵyl Arall.

Mae'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor mewn ffordd syml, flasus. Gellir gwneud nifer helaeth o'r seigiau mewn un pot a heb lawer o offer cymhleth, sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr a theuluoedd prysur. Mae symbolau arbennig yn cael eu defnyddio i nodi lle gellir addasu'r rysáit i gydfynd â deiet gwahanol e.e. figan, diglwten, di-laeth ac ati, ac i nodi'r prydau hynny y gellir eu paratoi mewn hanner awr neu lai.

Wrth gwrs, mae yma ddanteithion tipyn llai iachus hefyd − ond mae'n rhaid cael amrywiaeth mewn bywyd, does!


Bydd PARTI i ddathlu cyhoeddi 'CEGIN', llyfr ryseitiau newydd Nici Beech, Nos Wener, Tachwedd 4ydd am 7.30 yh, yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon, yng nghwmni Dyl Mei. Adloniant gan Hywel Pitts a Dau Cefn.
Bydd llond y lle o ddanteithion blasus o'r llyfr i'w blasu, a chwrw lleol ar werth tu ôl i'r bar.
Croeso cynnes i bawb.
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top