Gwych o beth yw cael cynnyrch y prosiect arloesol hwn yn Gymraeg.
Aeth yr awduron ati i gasglu straeon am 100 o ferched arloesol, gan
dorri’r record am lyfr gwreiddiol a gyllidwyd yn dorfol, a chan
gomisiynu gwaith celf gan 60 o artistiaid benywaidd o bedwar ban
byd. Cyfieithwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol i sawl iaith eisoes, ac
mae’r fersiwn Cymraeg yn Gymreig iawn. Nid yn unig mae’r Gymraeg yn
llifo’n rhwydd, ond addaswyd peth o’r cynnwys fel bod y rhedwraig
Lowri Morgan yn cymryd lle Margaret Thatcher. Hefyd ceir dyfyniadau
pwrpasol Cymraeg gan ferched ar y clawr cadarn.
Ond beth am apêl y straeon eu hunain? Ceir yma gant o straeon un
dudalen yr un o hyd am ferched o bob gwlad a phob cyfnod, o
Cleopatra i Simone Biles y gymnastwraig, ac o bob maes, o fale i
fathemateg, o fyd rasio i wleidyddiaeth, o gerddoriaeth i ffiseg. I
gyd-fynd â phob stori ceir portread trawiadol newydd, ynghyd â
dyfyniad a manylion bywgraffiadol am bob unigolyn. Ar ddiwedd y
gyfrol ceir lle i berchennog y llyfr ysgrifennu ei hanes ei hunan a
llunio’i hunanbortread. Rhywbeth at ddant pawb, felly, ac er bod y
straeon yn ddigon syml i blant iau allu eu mwynhau (o tua 6 neu 7
oed), does yna ddim byd syml am neges y llyfr, sydd yn
ysbrydoliaeth i ferched o bob oedran.
Mae’r fath gyfoeth ymchwil yn sail i’r prosiect fel y bydd pawb yn
elwa o’r adnodd newydd hwn. Yn wir, dyna’r unig broblem wela i
gyda’r llyfr: mae’n bwysig i bawb ei ddarllen, yn fechgyn a dynion
yn ogystal â merched. Yn gwbl groes i lyfrau sy’n arfer targedu
merched, does yma ddim pinc na blodau na chalonnau ar gyfyl y lle.
Dyma chwa o awyr iach i’ch silff lyfrau.
*Heather Williams @ www.gwales.com*
Ask a Question About this Product More... |