Cefais fy nghyflwyno i lyfrau Roald Dahl am y tro cyntaf yn rhiant yn fy nhridegau -- a dwi wrth fy modd gyda nhw. Mae'n hyfryd bod fy mab saith mlwydd oed yn frwdfrydig am weithiau Dahl yn yr iaith wreiddiol, ond mae hefyd yn cael blas ar y teitlau cyfatebol Cymraeg hefyd. Dyma addasiad penigamp gan Elin Meek. Mae'r llyfr yn cychwyn gyda darluniau o'r prif gymeriadau. Yna, cawn ein cyflwyno i hen siop losin sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd, ond sydd newydd gael ei phrynu gan neb llai na jiraff, pelican a mwnci sydd wedi sefydlu cwmni glanhau ffenestri! Mae'r tri angen cymorth Bili i gael gwaith er mwyn iddynt gael bwyd. Daeth newyddion da i'r criw wrth i Ddug Hampshire ofyn iddynt lanhau holl ffenestri ei dy crand! Ar ol helynt a helbul a llu o ddigwyddiadau cyffrous, cafodd yr anifeiliaid eu dymuniad, sef llond bol o fwyd ac fe wnaeth y dug wireddu breuddwyd Bili hefyd. Cafodd yntau'r siop yn rhodd, a honno'n llawn losin rhyfeddol! Dyma stori hapus a hyfryd sy'n llawn bwrlwm a dychymyg. O droi at y tudalennau cefn, cawn lu o ffeithiau am Roald Dahl, ac mae'r gyfrol yn cynnwys sawl cerdd a luniwyd ganddo yn y bath! Mae moeswers syml gan y stori:'Os ydych chi'n garedig, dyna ni'. Ac yn sicr mae bod yn garedig a helpu eraill yn llinyn sy'n rhedeg trwy'r gwaith. Mae'r llyfrau Dahl a gyhoeddwyd gan Rily bob tro yn dda, a'r Gymraeg ynddynt yn naturiol a graenus. Dyma lyfr y bydd ei greadigrwydd yn apelio at bob oed. Tegwen Morris Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |