'Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.' Geiriau adnabyddus o'r
Llyfr Gweddi Cyffredin, geiriau y bydd pawb ohonom yn gyfarwydd â'u
clywed. Fe wnânt ein hatgoffa nad ydym fyth ymhell oddi wrth
farwolaeth. Atgoffant ni nad yw bywyd a marwolaeth ond dwy ochr i'r
un geiniog.
Mae trafod marwolaeth ac angladd yn dal yn rhyw fath o tabŵ,
rhywbeth gwaharddedig. Ond yn Teulu'r Gymwynas Olaf cawn aelodau o
un o gwmnïau angladdol amlycaf Cymru yn agor y llenni ar arferion,
dyletswyddau ac anghenion yr ymgymerwr.
Mae hon yn gyfrol ddadlennol sydd heb fod yn dywyll. Yn wir cawn
yma ac acw gryn hiwmor. Crynhoir y cyfan yn gryno gan yr ieuengaf
yn y busnes, Rhys gyda'r geiriau: 'Mae delio â'r meirw yn ffordd o
fyw i ni...'
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*
Ask a Question About this Product More... |