Dach chin barod am un arall o anturiaethau Crwtyn Cryf, Ffion Ffrisbi a Bari Brns, heb anghofio Pwdin y ci? Ydyn, maer Archarwyr yn eu holau. Maer gloch wedi canu ac mae Ysgol y Nerthol ar fin dechrau. I mewn ni! Y tro hwn, Doctor Drwg ydir ... wel, y drwg yn y caws, ac maer athrylith gwyddonol gwallgo yn daer ei fod am ddifetha popeth efoi gwstard cas. Yn wir, mae Doctor Drwg eisiau rheolir byd. A hithau yn amser cynnal arolwg, dymar peth olaf mae Miss Marblen, pennaeth yr ysgol, ei angen. Nid ysgol arferol ydi hon ar y gorau. Mae pethaun mynd o ddrwg i waeth pan fo dryswch llwyr a sombis cwstard ymhob cwr! Ond does dim angen gofyn pwy sydd yn helpu i achub pawb o grafangau Doctor Drwg. A beth goblyn fydd barn yr arolygwyr am hyn oll? Addasiad yw hon o gyfres Superhero School gan Alan MacDonald, ond mae hin gweithio ir dim yn Gymraeg hefyd. Maer anturiaethau ynddin ddi-baid ac wrth i ni amau fod y strach wedi dod i ben, mae rhywbeth arall wastad yn dod i droir drol. Dyma hwyl a chwerthin rhwng dau glawr. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |