Cyfres Clec [Welsh]
By

Rating

Product Description
Product Details

Reviews

Y pedwerydd mewn cyfres wreiddiol o ‘straeon denu darllen’. Wedi eu hanelu at blant 6+, dyma ddwy stori ffraeth a difyr sy’n cynnwys sefyllfaoedd a chymeriadau lliwgar y gall plant heddiw uniaethu â nhw. Lluniau du a gwyn hwyliog gan Hannah Doyle.

Gwely Haul
Gwylan glên a llawen yw Gwil erbyn hyn. Ond ar un adeg, roedd mewn penbleth fawr – roedd Gwil yn methu’n lân â deall ble’r oedd yr haul yn cysgu. Does dim amdani ond hedfan Cymru i ganfo atebion.

Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna
Mae’n ben-blwydd Anna heddiw. Mae hi’n ddeg oed, ac mae dathlu mawr. Dim ond naw oed ydi Hanna – tan fory. Tybed a fydd Hanna’n gallu bihafio ym mharti ei hefaill? Dyma drwbl dwy ddwbwl!

DWY stori i’w clecio mewn UN llyfr
*Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch*

Dyma ddwy stori wreiddiol arall yn y gyfres yma. Mae’r ddwy yn ddarllenadwy iawn, yn cynnwys geirfa ymestynnol ac mae digonedd o faterion trafod yn codi ynddyn nhw.

Yn y gyntaf mae Gwil y Gwylan glên ar dân eisiau gwybod ble roedd yr haul yn cysgu yn y nos. Ceisiodd gymorth Dwpsen Dylluan a Penri’r Pry Cop, ond dwy siwrne ofer a gafodd Gwil wrth wrando arnyn nhw. Ond yn ffodus i Gwil, roedd Ywi Ystlum wedi clywed am ei benbleth ac fe drefnodd gyfarfod arbennig i ddod at y gwirionedd.

Dyma stori annwyl iawn sy’n cyflwyno rhai mannau daearyddol yng Nghymru, gan gynnwys Tŵr yr Eryr yng Nghastell Caernarfon, Ynys Llanddwyn a Stadiwm y Mileniwm. Ac mae yna elfen wyddonol i’r stori tua’r diwedd hefyd.

Mae yna gymhlethdod mawr yn yr ail stori. Mae Anna a Hanna yn efeilliaid, ond doedden nhw ddim wedi cael eu geni ar yr un diwrnod na hyd yn oed yn yr un mis, er mai dim ond 10 munud sydd rhyngddyn nhw! Mae’r ddwy chwaer yn hollol wahanol i’w gilydd; Anna yn dwt ac yn daclus a Hanna’n flêr iawn. Gan taw Anna oedd yr hynaf o’r ddwy, hi fyddai’n cael ei phen-blwydd gynta, ac roedd hynny’n dân ar groen ei chwaer. Yn wir, doedd hi ddim yn mynd i fwynhau ar unrhyw gyfri, ac roedd am ddifetha’r hwyl i bawb arall hefyd.

Wrth i bawb gyrraedd, fe gafodd Hanna syniad cas iawn. Roedd am droi dŵr Geraint Thomas, anrheg o siop ‘MiaWyff’ yn binc! Wedi eich drysu? Wel, fe ddaw’r atebion yn glir wrth i chi ddarllen y stori ddoniol yma .. . a cheir diweddglo hapus hefyd.
*Hefin Jones @ www.gwales.com*

Ask a Question About this Product More...
 
Look for similar items by category
This title is unavailable for purchase as none of our regular suppliers have stock available. If you are the publisher, author or distributor for this item, please visit this link.

Back to top